
Y Pren ar y Bryn
Ar y bryn daeth pren
O bren braf!
Y pren ar y bryn
A’r bryn ar y ddaear
A’r ddaear ar ddim
Ffeind a braf oedd y bryn
Lle tyfodd y pren.
Pennill olaf:
O’r plu daeth gwely,
O wely braf!
Y gwely o’r plu,
Y plu o’r cyw,
Y cyw o’r wy,
Yr wy o’r nyth,
Y nyth ar y gainc,
Y gainc ar y pren,
Y pren ar y bryn,
Y bryn ar y ddaear
A’r ddaear ar ddim.
Ffeind a braf oedd y bryn
Lle tyfodd y pren.
Mwy…
Y Pren ar y Bryn
Cân gronnus, gyda’r ychwanegiadau i bob pennill yn cael ei chanu yn gyflymach ac yn gyflymach. Casgliwyd y gân yn ardal Ffestiniog.
The family [of songs] is often called The Tree in the Wood or The Everlasting Circle, and is sung to a good few different tunes and in a good few different languages, but the basic content and the circular form doesn’t seem to vary all that much. As we know it now, it doesn’t mean a great deal, but essentially the same content also turns up in Asia (for example), where it has been used in Zen parables and the like. That doesn’t mean that it’s ever had any particularly deep meaning in Europe, but the human fascination with such things certainly goes back a long way.
Y hanesydd cerddoriaeth Malcom Douglas mewn trafodaeth ar wefan werin y Mudcat Cafe
Canodd Heather Jones Y Pren Ar Y Bryn fel ran o brosiect trac Alawon Fy Ngwlad.
Cewch wrando ar dipyn o fersiwn Dafydd Iwan yma.

0 Comments