
Y Ddau Farch
Pan oeddwn ar foreddydd
Tal and the doodle and the doodle and the day,
Yn rhodio ma’s o’m cufydd,
Cyfarfod wneuthum â dau farch
Yn ymgom ar y mynydd.
Rei tal and the doodle and the doodle and the day,
Yn ymgom ar y mynydd.
Dywedai y cel gwannaf
`Nawr wrth y ceffyl cryfaf –
“Fe fum i undydd yn fy mharch
Yn gystal march â thitha.”
“Pan es yn hen glunhercyn
Ces gario yd i’r felin,
A beth ddigwyddodd i fy rhan
Ond gogred gwan o eisin.
“Tynasant fy mhedola`
Gyrasant fi i’r mynydda`,
A thra bo anadl yn fy ffroen
Ni ddeuaf byth tuag adra.”
Y Ddau Farch
Casgliwyd y gân yn Llangeitho, Ceredigion.
Cewch glywed fersiynnau eraill o ‘Y Ddau Farch’ ar lein yma ar wefan Amazon, gan :
Mae nodiant y gân hon a llawer mwy ar gael yn y llyfr Caneuon Traddodiadol y Cymry
Y band Alaw gyda’u fersiwn llawn afiaith o’r gân werin ‘Y Ddau Farch’.
‘Gwel Yr Adeilad’ yw’r alaw sy’n dilyn y gân.

CYSYLLTWCH Â NI+
trac
Bwlch Post 205
Y BARRI CF63 9FF
01446 748 556
trac@trac-cymru.org
0 Comments