
Y Cardotyn
Hen gardotyn wyf a thlawd
Heb dad na mam, heb chwaer na brawd,
Eto mi ganaf “Di li dwd
Heb gywilyddio cario cwd”
Mwy…
Y Cardotyn
Nodwyd gan lolo Morganwg.
Mae nodiant y gân hon a llawer mwy ar gael yn y llyfr Caneuon Traddodiadol y Cymry
Hen gardotyn wyf a thlawd
Heb dad na mam, heb chwaer na brawd,
Eto mi ganaf “Di li dwd
Heb gywilyddio cario cwd”
Cario cwd ar hyd y wlad,
Gofyn rhodd a’i chael yn rhad;
A gorau swydd nid oes ei swd
Yw’n ddigyffro cario cwd.
Duw’n fy rhan, `sraid gofyn gwell,
Mae’n aur mewn cod, mae’n flawd mewn cell;
Mae’n wisg, mae’n wasgod poeth a brwd,
Dyna sydd o gario cwd.
Mae rhai dynion yn y byd
Er maint y senner hwn o hyd;
Rhoed Duw fendithion megis ffrwd
Lle bo cael wrth gario cwd.

CYSYLLTWCH Â NI+
trac
Bwlch Post 205
Y BARRI CF63 9FF
01446 748 556
trac@trac-cymru.org
0 Comments