Tra Bo Dwr y Môr yn Hallt


Tra bo dŵr y môr yn hallt
A thra bo ngwallt yn tyfu
Tra bo calon yn fy mron
Mi fyddaf ffyddlon iti.

More…

Tra Bo Dwr y Môr yn Hallt

Love song. The words are taken from the more well known Bugeilio’r Gwenith Gwyn but using a completely different melody, in the dorian mode. Noted in Llanidloes.

Caneuon Traddodiadol Y Cymry

Mae nodiant y gân hon a llawer mwy ar gael yn y llyfr Caneuon Traddodiadol y Cymry

Tra bo dŵr y môr yn hallt
A thra bo ngwallt yn tyfu
Tra bo calon yn fy mron
Mi fyddaf ffyddlon iti.

Fi sydd fachgen ifanc ffôl
Yn byw yn ôl fy ffansi
Myfi’n bugeilio’r gwenith gwyn
Ac arall yn ei fedi.

Rwy’n dewis dyfod ar dy ôl
Bob dydd ar ôl ei gilydd,
Tithau sydd, anwylyd fach,
Yn decach, wynnach beunydd.

Glanach, glanach wyt bob dydd,
Neu fi sy â’m ffydd yn ffolach;
Er mwyn y Gŵr a wnaeth dy wedd
Dod im drugaredd bellach.

Dyma cantorion ‘Llais Naturiol’ Wild Angels, Whitton Voices a’r Cusop Dinglers dan arweiniad Sue Harris, gyda thefniant gan Sue.

Dyma fersiwn gan Blanche Rowen a Mike Gulston, sy’n defnyddio’r alaw hon gyda geirau’r gân gysylltiedig Bugeilio’r Gwenith Gwyn

0 Comments

Cyflwyno Sylwadau

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

CYSYLLTWCH Â NI+

trac
Bwlch Post 205
Y BARRI CF63 9FF
01446 748 556
trac@trac-cymru.org