
Tra Bo Dau
Mae’r hon a gâr fy nghalon i
Ymhell oddi yma’n byw,
A hiraeth am ei gweled hi
A’m gwnaeth yn llwyd fy lliw.
Cytgan:
Cyfoeth nid yw ond oferedd,
Glendid, nid yw yn parhau,
Ond cariad pur sydd fel y dur
Yn para tra bo dau.
Mil harddach yw y deg ei llun
Na gwrid y wawr i mi,
A thrysor mwy yw serch fy mun,
Na chyfoeth byd a’i fri.
O’r dewis hardd ddewisais i
Oedd dewis lodes lân
A chyn bydd `difar gennyf fi
O rhewi wnaiff y tân.
Os claf o serch yw `nghalon i,
Gobeithio’i bod hi’n iach!
Rwy’n caru’r tir lle cerddo hi
Dan wraidd fy nghalon fach.
Tra Bo Dau
Un o ganeuon serch mwyaf poblogaidd Cymru. Casgliwyd yng Nghricieth.
Mae nodiant y gân hon a llawer mwy ar gael yn y llyfr
Caneuon Traddodiadol y Cymry

Dyma ddau drefniant y gân, gan Lowri Evans a Sorela

CYSYLLTWCH Â NI+
trac
Bwlch Post 205
Y BARRI CF63 9FF
01446 748 556
trac@trac-cymru.org
0 Comments