Robin Ddiog

Mae gen i dipyn o dŷ bach twt,
o dŷ bach twt, o dŷ bach twt.
Mae gen i dipyn o dŷ bach twt,
a’r gwynt i’r drws bob bore.

Hei di ho di hei di hei di ho,
a’r gwynt i’r drws bob bore.

Agorwch dipyn o gîl y drws,
o gîl y drws, o gîl y drws.
Agorwch dipyn o gîl y drws,
gael gweld y môr a’i donnau.

Mwy…

Robin Ddiog /
Mae Gen I Dipyn O Dy Bach Twt

Mae’r alaw a’r ddau bennill cyntaf yn dod o dde Cymru. Daeth penillion 3-7 o’r gogledd.

Caneuon Traddodiadol Y Cymry

Mae nodiant y gân hon a llawer mwy ar gael yn y llyfr Caneuon Traddodiadol y Cymry

Mae gen i dipyn o dŷ bach twt,
o dŷ bach twt, o dŷ bach twt.
Mae gen i dipyn o dŷ bach twt,
a’r gwynt i’r drws bob bore.

Hei di ho di hei di hei di ho,
a’r gwynt i’r drws bob bore.

Agorwch dipyn o gîl y drws,
o gîl y drws, o gîl y drws.
Agorwch dipyn o gîl y drws,
gael gweld y môr a’i donnau

Neithiwr mi euthum i dŷ fy nhad,
i dŷ fy nhad, i dŷ fy nhad,
Neithiwr mi euthum i dŷ fy nhad,
I geisio’n rhad fy nghroeso.

Fe gododd fy mam i roi i mi fwyd,
fy machgen llwyd i roi i mi fwyd
Fe gododd fy mam i roi i mi fwyd,
Fy machgen llwyd tyrd heibio.

Mi gododd fy nhad ac atom i’r llawr,
a phastwn mawr ac atom i’r llawr
Mi gododd fy nhad ac atom i’r llawr,
A phastwn yn ei ddwylo.

Fy nhad yn rhoi wald, a mam yn rhoi wald,
fy nhad yn rhoi wald a mam yn rhoi wald,
Fy nhad yn rhoi wald, a mam yn rhoi wald,
A dyna lle’r oeddan nhw’n waldio.

Roedd yn well gen i gael gweled hyn,
na siwgwr gwyn, gael gweled hyn,
Roedd yn well gen i gael gweled hyn,
Na siwgwr gwyn i’m cinio.

Ac yma y ffynnaf o ddydd i ddydd,
yn llon fy myd, o ddydd i ddydd,
Ac yma y ffynnaf o ddydd i ddydd,
A’r gwynt i’r drws bob bore.

Radwm yn canu eu fersiwn, a Meredydd Evans yn canu fersiwn y De.

0 Comments

Cyflwyno Sylwadau

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

CYSYLLTWCH Â NI+

trac
Bwlch Post 205
Y BARRI CF63 9FF
01446 748 556
trac@trac-cymru.org