Rew Di Ranno

Diofal yw’r aderyn,
Ni hau, ni fed un gronyn,
Heb un gofal yn y byd
Mae’n canu ar hyd y flwyddyn.

Fe eistedd ar y gangen
Gan edrych ar ei aden,
Heb un geiniog yn ei god,
Yn llywio a bod yn llawen.

Fe fwyty’i swper heno,
Ni ŵyr ym mh’le mae’i ginio;
Dyna’r modd y mae yn byw, –
A gado i Dduw arlwyo.

Rew di Ranno

Nodwyd gan ganwr a oedd wedi clywed y gân ar Ynys Môn.

Mae Carreg Lafar wedi recordio’r gân dan yr enw Aderyn Bach. Cliciwch neu tapiwch y llun i wrando ar Soundcloud. Byddwch yn sylwi bod eu fersiwn yn cynnwys penillion traddodiadol sy’ ddim yn fersiwn Arfon Gwilym.

Carreg Lafar
Mae Gwilym Bowen Rhys yn defnyddio dôn Rew Di Ranno ond gyda geiriau o’r 19eg ganrif ar ei albwm Groth y Ddaear. Gelwir y fersiwn Canu’n Iach i Arfon a gallwch wrando arno isod, a darllenwch y geiriau yma.

Mae nodiant y gân hon a llawer mwy ar gael yn y llyfr
Caneuon Traddodiadol y Cymry

 

Dyma Ryland Teifi’n canu’r gân fel ran o gyfres Ffwrnes Gerdd

0 Comments

Cyflwyno Sylwadau

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

CYSYLLTWCH Â NI+

trac
Bwlch Post 205
Y BARRI CF63 9FF
01446 748 556
trac@trac-cymru.org