Paid â Deud

Os yw’th galon bron a thorri
Paid â deud
Am fod serch dy fron yn oeri,
Paid â deud,
Ac os chwalu mae d’obeithion,
Paid â deud;
Ni ddaw neb i drwsio’th galon,
Paid â deud.

Pan fo stormydd byd yn gwgu
Paid â deud;
A gelynion yn dy faeddu,
Paid â deud;
Ac os weithiau byddi’n llwyddo,
Paid â deud;
Hawdd i’th lwydd fynd trwy dy ddwylo
Wrth it ddweud.

Mwy…

Paid â Deud

Y doethineb o beidio datgelu gormod, er gwaethaf treialon bywyd (i’r gwrthwyneb i’r hyn y byddai therapyddion yn cynghori heddiw!) Nodwyd yn Llanllyfni, Gwynedd.

Caneuon Traddodiadol Y Cymry
Mae nodiant y gân hon a llawer mwy ar gael yn y llyfr Caneuon Traddodiadol y Cymry

Dyma Cowbois Rhos Botwnnog a Gwyneth Glyn yn canu’r gân

… ac mae fersiwn gan Gildas hefyd.

0 Comments

Cyflwyno Sylwadau

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

CYSYLLTWCH Â NI+

trac
Bwlch Post 205
Y BARRI CF63 9FF
01446 748 556
trac@trac-cymru.org