
Mil Harddach Wyt
Mil harddach wyt na’r rhosyn gwyn
Na’r rhosyn coch ar ael y bryn,
Na’r alarch balch sy’n nofio’r llyn,
Fy maban bach.
Mwy swynol yw dy chwerthin mwyn
Na chân y fronfraith yn y llwyn,
Na murmur môr o ben y twyn,
Fy maban bach.
Mil Harddach Wyt
Hwiangerdd draddodiadol.
Mae nodiant y gân hon a llawer mwy ar gael yn y llyfr Caneuon Traddodiadol y Cymry
Mil harddach wyt na’r rhosyn gwyn
Na’r rhosyn coch ar ael y bryn,
Na’r alarch balch sy’n nofio’r llyn,
Fy maban bach.
Mwy swynol yw dy chwerthin mwyn
Na chân y fronfraith yn y llwyn,
Na murmur môr o ben y twyn,
Fy maban bach.
Mwy annwyl wyt na’r oenig gwyn,
Na’r blodau tlws ar ochrau’r bryn,
Na dawnsio heulwen ar y llyn,
Fy maban bach.
Mil gwell gen i nag aur y byd,
Yw gweld dy wenau yn dy grud,
Fy ffortiwn wyt, a gwyn fy myd,
Fy maban bach.

CONTACT US+
trac
PO Box 205
BARRY CF63 9FF
01446 748 556
trac@trac-cymru.org
0 Comments