
Marwnad yr Ehedydd
Mi a glywais fod yr hedydd
Wedi marw ar y mynydd
Pe gwyddwn i mai gwir y geirie
Awn â gyrr o wŷr ag arfe
I gyrchu corff yr hedydd adre.
Mi a glywais fod yr hebog
Eto’n fynych uwch y fawnog,
A bod ei galon a’i adenydd
Wrth fynd heibio i gorff yr hedydd
Yn curo’n llwfr fel calon llofrudd.
Mwy
Marwnad yr Ehedydd
Mae rhai wedi awgrymu fod y gân yn sôn am Owain Glyndwr.
Casgliwyd y pennill cyntaf yn Lanidloes; cyfansoddwyd y pennillion eraill gan Cynan.
Cyfansoddwyd penillion ychwanegol i’r gan hon hefyd gan Enid Parry (gweler ‘Caneuon Traddodiadol y Cymry’); a cheir fersiwn wahanol eto gan Myrddin ap Dafydd, ‘Mawl yr Hedydd’.
Mi a glywais fod yr hedydd
Wedi marw ar y mynydd
Pe gwyddwn i mai gwir y geirie
Awn â gyrr o wŷr ag arfe
I gyrchu corff yr hedydd adre.
Mi a glywais fod yr hebog
Eto’n fynych uwch y fawnog,
A bod ei galon a’i adenydd
Wrth fynd heibio i gorff yr hedydd
Yn curo’n llwfr fel calon llofrudd.
Mi a glywais fod cornchwiglan
Yn ei ddychryn i ffwrdd o’r siglan,
Ac na chaiff, er dianc rhagddi,
Wedi ei rhusio o dan y drysi,
Ond aderyn y bwn i’w boeni.
Mi a glywais gan y wennol
Fod y tylwyth teg yn `morol
Am arch i’r hedydd bach o risial
Ac am amdo o’r pren afal,
Piti fâi dwyn pob petal.
Cans er dod â byddin arfog,
Ac er codi braw ar yr hebog,
Ac er grisial ac er bloda,
Er yr holl dylwyth teg a’u donia,
Ni ddaw cân yr hedydd adra.
Dyma Guto Dafis yn canu Marwnad Yr Ehedydd
Dyma fersiwn offerynol hyfryd gan Nath Trevett
Mae nodiant y gân hon a llawer mwy ar gael yn y llyfr Caneuon Traddodiadol y Cymry

0 Comments