Mae ‘Nghariad i’n Fenws

Mae ‘nghariad i’n Fenws,
Mae ‘nghariad i’n fain,
Mae ‘nghariad i’n dlysach
Na blodau y drain.
Fy nghariad yw’r lana’
A’r wynna’n y sir.
Nid canmol yr ydwyf
Ond dwedyd y gwir.

Mwy…

Mae ‘Nghariad i’n Fenws

Cân serch. Nodwyd yn Llangefni, Anglesey.

Caneuon Traddodiadol Y Cymry

Mae nodiant y gân hon a llawer mwy ar gael yn y llyfr Caneuon Traddodiadol y Cymry

Mae ‘nghariad i’n Fenws,
Mae ‘nghariad i’n fain,
Mae ‘nghariad i’n dlysach
Na blodau y drain.
Fy nghariad yw’r lana’
A’r wynna’n y sir.
Nid canmol yr ydwyf
Ond dwedyd y gwir.

Wych eneth fach annwyl
Sy’n lodes mor lân
A’i gruddiau mor writgoch
A’i dannedd mân, mân;
A’i dau lygad siriol,
A’i dwy ael fel gwawn;
Fy nghalon a’i carai
Pe gwyddwn y cawn.

Mae `nghariad i’n caru
Fel cawod o law,
Weithiau ffordd yma
Ac weithiau ffordd draw,
Ond cariad pur ffyddlon
Ni charith ond un,
Y sawl a gâr lawer
Gaiff fod heb yr un.

0 Comments

Cyflwyno Sylwadau

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

CYSYLLTWCH Â NI+

trac
Bwlch Post 205
Y BARRI CF63 9FF
01446 748 556
trac@trac-cymru.org