Hen Ferchetan


Hen ferchetan wedi colli’i chariad,
Cael un arall, dyna oedd ei bwriad,
Ond nid oedd un o lanciau’r pentref
Am briodi Lisa fach yr Hendref.

Mwy…

Hen Ferchetan

The frustrations of a Lisa from the Hendre who can’t find a boyfriend. “New potatoes will grow on an apple tree before Lisa will get married.” But then she goes to Bala fair. A word from Sion Prys on her way home gives her hope. Only the first verse is traditional: the others are by Enid Parry.

Caneuon Traddodiadol Y Cymry

Mae nodiant y gân hon a llawer mwy ar gael yn y llyfr Caneuon Traddodiadol y Cymry

Hen ferchetan wedi colli’i chariad,
Cael un arall, dyna oedd ei bwriad,
Ond nid oedd un o lanciau’r pentref
Am briodi Lisa fach yr Hendref.

Hen ferchetan sydd yn dal i dreio,
Gwisgo lasie sidan ac ymbincio,
Ond er bod brân i frân yn rhywle,
Nid oes neb i Lisa fach yr Hendre.

Hen ferchetan bron a thorri i chalon,
Mynd i’r llan mae pawb o’i hen gariadon,
Bydd tatws newydd ar bren ‘fale
Cyn priodith Lisa fach yr Hendre.

Hen ferchetan aeth i Ffair y Bala,
Gweld Sion Prys yn fachgen digon smala,
Gair a ddywedodd wrth fynd adre
Gododd galon Lisa fach yr Hendre.

0 Comments

Cyflwyno Sylwadau

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

CYSYLLTWCH Â NI+

trac
Bwlch Post 205
Y BARRI CF63 9FF
01446 748 556
trac@trac-cymru.org