CAROL RHYS ELIS O’R WAUN

Carol Rhys Elis o’r Waun

Atolwg, lana’ teulu,
Rhowch gennad inni ganu;
Mae’r yd a’r borfa’n glasu,
Yn tyfu ar y tir;
Mae’r gog yn pyncio’i gore
Yn barod hwyr a bore;
Nid pell oddi wrth ein dryse
Yw dyddie C’lanme clir.

Pe medrem fod yn fodlon
A diolch i Dduw’n ffyddlon,
Efo sydd inni’n danfon
Bendithion digon da;
O’r fan lle bo bodlonrwydd
Yn wastad, a gonestrwydd,
Ni lithra fyth helaethrwydd
A hyfryd ffrwythydd ha’.

A gwyn eu byd eneidiau
Y rhai sy â’u holl galonnau
Yn labro ar union lwybrau
Daionus deddfau Duw;
Os medrwn fod yn fodlon
A diolch iddo’n ffyddlon,
Fe ddigwydd inni ddigon
O foddion yma i fyw.

Carol Rhys Elis o’r Waun

Carolau Mai Neu Carolau Haf

Amser i lawenháu ac amser i ddathlu oedd Calan Mai, drwy ddawns a chân – a chodi’r Pawl Haf – nid yng Nghymru yn unig wrth gwrs. Un rhan o’r traddodiad oedd i bartïon bychain o gantorion (dynion yn bennaf, mae’n debyg!) i grwydro o dŷ i dŷ yn gynnar yn y bore i ganu ‘Carolau Mai’ neu ‘Garolau Haf’. Yng Nghymru mae’r carolau Nadolig yn llawer mwy adnabyddus na’r carolau haf (yn y casgliad ‘Caneuon Traddodiadol y Cymry’, a gyhoeddwyd yn y 60au, dim ond tair carol haf gafodd eu cynnwys).

Mae’r carolau haf cynharaf a gofnodwyd yng Nghymru yn dod o ddechrau’r ail ganrif ar bymtheg, ac mae’r rhan fwyaf yn cynnwys elfennau crefyddol (er mai dathliad paganaidd oedd hwn yn wreiddiol yn yr hen amser). Mae’r carolau fel arfer yn cynnwys cyfarchiad i’r teulu, croesawu’r adfywiad ym myd natur ar ôl misoedd caled y gaeaf, diolch i’r Hollalluog am ei haelioni, a dymuno’n dda i’r teulu.  Mae nhw hefyd yn aml yn cynnwys cyfeiriadau at faterion cyfoes megis rhyfeloedd, trethi, codiad mewn prisiau ac ati.

Carol Rhys Elis o’r Waun

Cyfansoddwyd yn 1736. Mae’r alaw yn ymddangos ddwywaith yng nghasgliad John Jenkins (Ifor Ceri) – un mewn amser 4/4 a’r llall mewn 3/4. Y fersiwn 3/4 yw’r un a genir yma: canwyd y fersiwn hon i J. Lloyd Williams, un o sylfaenwyr y Gymdeithas Alawon Gwerin, gan Robert Evans, bugail o Sir Drefaldwyn, yn yr 1890au.

Canu Haf

 

Mae’r pennill cyntaf wedi cael ei ddefnyddio mewn trefniant gan Blanche Rowen a Mike Gulston gyda Charol Mai o Loegr. Mae’r gân Gymreig yn dechrau am 1.40 ac ar ôl y pennill Cymraeg mae fersiwn yn Saesneg.

Save

Save

Save

Mae nodiant y gân hon a llawer mwy ar gael yn y llyfr Canu Haf

Save

Save

Save

0 Comments

Cyflwyno Sylwadau

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

CYSYLLTWCH Â NI+

trac
Bwlch Post 205
Y BARRI CF63 9FF
01446 748 556
trac@trac-cymru.org