Carol Edward Samwel

Y teulu hynod haelion,
Cydganwn yn deg union
Fawl gydlais, fêl, gaeadlon,
Yn dirion hinon ha’;
Ac eiliwn gyda’n gilydd
Yn llawen i’n Pen Llywydd
Ganmoliaeth helaeth, hylwydd
Am ddedwydd dywydd da

Mwy …

Carol Edward Samwel

Y teulu hynod haelion,
Cydganwn yn deg union
Fawl gydlais, fêl, gaeadlon,
Yn dirion hinon ha’;
Ac eiliwn gyda’n gilydd
Yn llawen i’n Pen Llywydd
Ganmoliaeth helaeth, hylwydd
Am ddedwydd dywydd da.

Wrth glywed llais yr adar
A sain eu llefain llafar,
A gweled wyneb hawddgar
Y ddaear glaear glyd,
A rhywiog wlith y bore,
Cenhadon i ddwyn cnyde,
Disgwyliwn am des gole
A ffrwythe gore’i gyd.

Y gwenyn hyd y gweunydd
A dynnant dan adenydd
Y mêl o bob meillionwydd
Yn gelfydd, hirddydd ha’;
Gwnawn ninnau’n gywrain unwedd
Y gorau o bob trugaredd
I lân gyweirio’n buchedd
At gyrredd diwedd da.

Person Llangar ger Corwen (Llan Garw Gwyn oedd yr hen enw) oedd Edward Samwel. Roedd yn hen daid i David Samwell, Dafydd Ddu Feddyg, llawfeddyg ar long Capten Cook. Yn y gerdd wreiddiol mae deg o benillion, yn llawn o linellau cynganeddol. Nodwyd yr alaw gyntaf yn llawysgrif John Jenkins (Ifor Ceri) tua 1815, o dan yr enw ‘Mwynen Mai’ neu ‘Llafar Haf’ neu ‘Gwen Lliw’r Lili’ – alaw o Dde Cymru.

Carolau Mai neu Carolau Haf

Amser i lawenháu ac amser i ddathlu oedd Calan Mai, drwy ddawns a chân – a chodi’r Pawl Haf – nid yng Nghymru yn unig wrth gwrs. Un rhan o’r traddodiad oedd i bartïon bychain o gantorion (dynion yn bennaf, mae’n debyg!) i grwydro o dŷ i dŷ yn gynnar yn y bore i ganu ‘Carolau Mai’ neu ‘Garolau Haf’. Yng Nghymru mae’r carolau Nadolig yn llawer mwy adnabyddus na’r carolau haf (yn y casgliad ‘Caneuon Traddodiadol y Cymry’, a gyhoeddwyd yn y 60au, dim ond tair carol haf gafodd eu cynnwys).

Mae’r carolau haf cynharaf a gofnodwyd yng Nghymru yn dod o ddechrau’r ail ganrif ar bymtheg, ac mae’r rhan fwyaf yn cynnwys elfennau crefyddol (er mai dathliad paganaidd oedd hwn yn wreiddiol yn yr hen amser). Mae’r carolau fel arfer yn cynnwys cyfarchiad i’r teulu, croesawu’r adfywiad ym myd natur ar ôl misoedd caled y gaeaf, diolch i’r Hollalluog am ei haelioni, a dymuno’n dda i’r teulu.  Mae nhw hefyd yn aml yn cynnwys cyfeiriadau at faterion cyfoes megis rhyfeloedd, trethi, codiad mewn prisiau ac ati.

Canu Haf

 Mae nodiant y gân hon a llawer mwy ar gael yn y llyfr Canu Haf

0 Comments

Cyflwyno Sylwadau

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Save