
Cariad Cyntaf
Mae prydferthwch ail i Eden
Yn dy fynwes gynnes, feinwen,
Fwyn gariadus liwus lawen.
Seren syw, clyw di’r claf.
Addo’th gariad i mi heno,
Gwnawn amodau cyn ymado
I ymrwymo, doed a ddelo;
Rho dy gred, a dwed y doi.
Mwy..
Cariad Cyntaf
Cofnodwyd gan Mary Davies o ganu Mr A. Jenkins, Aberystwyth a’i dysgodd yn Llangeitho yn 1890.
Mae nodiant y gân hon a llawer mwy ar gael yn y llyfr Caneuon Traddodiadol y Cymry
Mae prydferthwch ail i Eden
Yn dy fynwes gynnes, feinwen,
Fwyn gariadus liwus lawen.
Seren syw, clyw di’r claf.
Yn dy fynwes gynnes, feinwen,
Fwyn gariadus liwus lawen.
Seren syw, clyw di’r claf.
Addo’th gariad i mi heno,
Gwnawn amodau cyn ymado
I ymrwymo, doed a ddelo;
Rho dy gred, a dwed y doi.
Gwnawn amodau cyn ymado
I ymrwymo, doed a ddelo;
Rho dy gred, a dwed y doi.
Liwus lonnach, serch fy mynwes,
Wiwdeg orau ‘rioed a gerais
Mi’th gymeraf yn gymhares;
Rho dy gred, a d’wed y doi.
Wiwdeg orau ‘rioed a gerais
Mi’th gymeraf yn gymhares;
Rho dy gred, a d’wed y doi.
Yn dy lygaid caf wirionedd
Yn serennu gras a rhinwedd,
Mae dy weld i mi’n orfoledd:
Seren syw, clyw di’r claf.
Yn serennu gras a rhinwedd,
Mae dy weld i mi’n orfoledd:
Seren syw, clyw di’r claf.
The Foxglove Trio yn perfformio Cariad Cyntaf.
Mae’r cantores, Ffion Mair wedi edrych ar y gân yn fanwl yma
https://caneuongwerin.wordpress.com/tag/cariad-cyntaf/

CONTACT US+
trac
PO Box 205
BARRY CF63 9FF
01446 748 556
trac@trac-cymru.org
0 Comments