Cainc yr Aradwr

Fe gwyd yr haul er machlud heno,
Fe gwyd y lloer yn ddisglair eto,
Cwyd blodau haf or ddaear dirion,
Ond byth!, O! byth ni chwyd fy nghalon.

Ho! da machgen i,
Ho! dere dere, O! dere dere Ho! Hai ho!

Fe gwn yr haul, fe gwn y lleuad,
Fe gwn y môr yn donnau irad,
Fe gwn y gwynt yn uchel ddigon:
Ni chwn yr hiraeth byth o nghalon.

More…

Cainc yr Aradwr

Mae llawer o ganeuon o draddodiad yr aradwr a’r cathreinwr, yn enwedig o Sir Forgannwg.

O wefan Amgueddfa Cymru:

“Ers canrifoedd maith bu defnyddio caniadau neu alwadau o ryw fath i annog ychen i weithio. Cofnodwyd amryw enghreifftiau o’r penillion (ynghyd â’r alaw ddiweddol) a genid i’r wedd ychen yn y deheudir. Yno – ac ym Morgannwg yn benodol – y parhaodd yr arfer o aredig ag ychen hwyaf yng Nghymru (hyd tuag 1880). Ar fesur triban y mae’r rhan fwyaf o’r caneuon ychen a gadwyd o Forgannwg. Ceir ymhlith y rhain laweroedd o dribannau serch a thribannau trioedd, ac amlygir yn y goreuon gynildeb ac arabedd anghyffredin. Unedau hunan–gynhaliol yw’r mwyafrif o’r penillion hyn eithr peth arferol wrth ddilyn y wedd aredig oedd llinynnu nifer ohonynt ynghyd a’u canu yn un gyfres.”

https://amgueddfa.cymru/casgliadau/caneuongwerin/?id=1

 

Mae nodiant y gân hon a llawer mwy ar gael yn y llyfr 100 O Ganeuon Gwerin

http://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781847715999/100-o-ganeuon-gwerin

 

Fe gwyd yr haul er machlud heno,
Fe gwyd y lloer yn ddisglair eto,
Cwyd blodau haf or ddaear dirion,
Ond byth!, O! byth ni chwyd fy nghalon.

Ho! da machgen i,
Ho! dere dere, O! dere dere Ho! Hai ho!

Fe gwn yr haul, fe gwn y lleuad,
Fe gwn y môr yn donnau irad,
Fe gwn y gwynt yn uchel ddigon:
Ni chwn yr hiraeth byth o nghalon.

Fe gwn yr haul pan ddêl boreddydd,
Fe gwn y tarth oddi ar y dolydd,
Fe gwn y gwlith oddi ar y meillion:
Gwae fi, pa bryd y cwn fy nghalon?

Mi wn am ferch yn Sir Forgannwg,
Yn deg ei thwf, yn hardd ei golwg,
Ai gwallt modrwyog, bronnau gwynion,
A duwch uffern yn ei chalon.

 

1 Comment

  1. Wendy Jones

    Gwych

    Reply

Cyflwyno Sylwadau

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *