
Bwthyn yng Nghymru
Wel dyma’r hen le rwy’n ei garu
Hen dŷ cân ac englyn yng Nghymru,
A’r gwellt iddo’n do,
A’r drws heb run clo,
A’r mur ddim rhy falch i’w wyngalchu.
Mwy…
Bwthyn yng Nghymru
Cân a ganwyd gan Bob Roberts, Tai’r Felin ger y Bala (1870-1951). Nodwyd y gân o deulu Llanbedr Pont Steffan ar ôl iddo gymryd rhan mewn Noson Lawen leol.
Mae nodiant y gân hon a llawer mwy ar gael yn y llyfr Caneuon Traddodiadol y Cymry
Wel dyma’r hen le rwy’n ei garu
Hen dŷ cân ac englyn yng Nghymru,
A’r gwellt iddo’n do,
A’r drws heb run clo,
A’r mur ddim rhy falch i’w wyngalchu.
A digon o le wrth y pentan
I gynnwys y teulu yn gyfan,
A golau tân mawn
Yn hyfryd a gawn,
I gadw’r tywyllwch tu allan.
A’r pistyll bach gloyw yn disgyn
Tan ganu, wrth dalcen y bwthyn,
Y pistyll bach glân
Sy’n dweud am y gân
A genir tu mewn i’r hen fwthyn.
Yng nghwrs Gwerin Gwallgo eleni (penwythnos werin i bobl ifanc), dysgodd pawb drefniant ‘band mawr’ gan diwtoriaid Gwilym Bowen Rhys a Patrick Rimes

CYSYLLTWCH Â NI+
trac
Bwlch Post 205
Y BARRI CF63 9FF
01446 748 556
trac@trac-cymru.org
0 Comments