Blodau’r Cwm

Pan ddelo’r haf a’i flodau fyrdd
Yn ôl i’w ffyrdd dan wenu,
Daw ataf eto fel erioed
Hen swyn y coed i’m denu.
Yn hedd y cwm a’i dlysni pur
Fe leddfir cur fy nghalon,
A rhoddaf fedd dan wyrddlas do
I filoedd o ofalon.

Y mae aroglau’r llysiau mân
Yn thuser anian lonydd,
A blodau cudd o rymus rin
A gaf ar fin afonydd.
Yn ddistaw oll i ffiol sant,
Distyllir pob diferyn,
Ac nid oes sŵn drwy’r goedwig werdd
Ond orig gerdd aderyn.

Rhowch in, ar hafddydd, yn y cwm
Hen furddyn llwm ac afon,
A blodau gwyllt eu tw’, bob tu,
A mwyar du a mafon,
Ac yno mewn tangnefedd pur
Fe leddfir cur fy nghalon,
A rhoddaf fedd, dan wyrddlas do,
I filoedd o ofalon.

Mwy…

Blodau’r Cwm

The words sing the praises of a rich and fertile valley on a fine summer’s day. The melody first appeared in Cambrian Minstrel leuan Ddu (1845). The words are by Gwili (John Jenkins) (1872-1936)

Caneuon Traddodiadol Y Cymry

Mae nodiant y gân hon a llawer mwy ar gael yn y llyfr Caneuon Traddodiadol y Cymry

0 Comments

Cyflwyno Sylwadau

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

CYSYLLTWCH Â NI+

trac
Bwlch Post 205
Y BARRI CF63 9FF
01446 748 556
trac@trac-cymru.org