Beth yw’r Haf i Mi?


Beth yw’r haf i mi?
Dim ond gaeaf llwm a dagrau’n lli.
Er pan gollais di,
Nid yw hirddydd haf yn ddim i mi,
Gariad bach, er cilio’n ffôl,
Dwed a ddoi di eto’n ôl.
Nid yw’r haf i mi’n
Ddim ond hirlwm er pan gollais di.

Mwy…

Save

Beth yw’r Haf i Mi?

The song describes a lost love, but ends with great hope of re-gaining that love. The melody was noted by German violinist John Malchair in Harlech castle around the end of the 18th century. He passed it on to Dr William Crotch of Oxford. A collection of melodies (including this one) by Dr Crotch was then accidentally found in a second hand book stall in Bangor at the beginning of the 20th century. T. H. Parry-Williams and his wife Lady Amy Parry-Williams then composed words on the original melody.

Beth yw’r haf i mi?
Dim ond gaeaf llwm a dagrau’n lli.
Er pan gollais di,
Nid yw hirddydd haf yn ddim i mi,
Gariad bach, er cilio’n ffôl,
Dwed a ddoi di eto’n ôl.
Nid yw’r haf i mi’n
Ddim ond hirlwm er pan gollais di.

Trist yw’r galon fach
Pan fo cwyn y gwynt ym mrigau’r coed.
Wedi’r canu’n iach
Rwyf yn disgwyl clywed sŵn dy droed.
Gariad bach, er crwydro ‘mhell,
Tyrd yn ôl i gyfarch gwell.
Trist yw’r galon fach;
Ni bu hiraeth mwy ar neb erioed.

Beth yw’r haf i mi
Os yw’r fron yn glaf o dan ei chlwy,
Beth yw’r haf i mi
Os yw’r galon fach ar dorri’n ddwy?
Gariad bach, er cilio’n ffôl,
Dwed y doi di eto’n ôl,
Yna bydd i mi
Hyfryd haf a dyddiau dedwydd mwy.

Caneuon Traddodiadol Y Cymry

Mae nodiant y gân hon a llawer mwy ar gael yn y llyfr Caneuon Traddodiadol y Cymry

Bethan Nia

Cliciwch ar y llun i glywed versiwn Bethan Nia

Save

0 Comments

Cyflwyno Sylwadau

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

CYSYLLTWCH Â NI+

trac
Bwlch Post 205
Y BARRI CF63 9FF
01446 748 556
trac@trac-cymru.org