
Beth Wneir â Merch Benchwiban?
Beth wneir â merch benchwiban
Beth wneir â cheffyl bychan?
Beth wneir â thaflod heb ddim gwair?
Beth wneir mewn ffair heb arian?
Wel rhoi y ferch benchwiban
I werthu’r ceffyl bychan,
A chadw’r daflod nes dêl gwair
A mynd i’r ffair â’r arian.
Beth wneir â stên heb waelod?
Beth wneir â chath heb lygod?
Beth wneir â’r mês heb ddim o’r moch?
Beth wneir â chloch heb dafod?
Ni ddeil ystên ddiwaelod,
Ceir boddi cath heb lygod,
A phlannu mês os na fydd moch,
A chrogi cloch heb dafod.
Mwy…
Beth Wneir â Merch Benchwiban?
Mae nodiant y gân hon a llawer mwy ar gael yn y llyfr Caneuon Traddodiadol y Cymry

0 Comments