Ar Lan y Môr


Ar lan y môr mae rhosys cochion
Ar lan y môr mae lilis gwynion,
Ar lan y môr mae ‘nghariad inne
Yn cysgu’r nos a chodi’r bore.

Ar lan y môr mae carreg wastad,
Lle bum yn siarad gair â’m cariad,
O amgylch hon fe dyf y lili
Ac ambell gangen o rosmari.

Mwy…

Ar Lan y Môr

Cân serch sy’n gyfres o Hen Benillion neu Benillion Telyn. Nodwyd yr alaw a’r ddwy bennill gyntaf o Gymro a oedd yn byw yn Llundain.

Mae nodiant y gân hon a llawer mwy ar gael yn y llyfr Caneuon Traddodiadol y Cymry

Ar lan y môr mae rhosys cochion
Ar lan y môr mae lilis gwynion,
Ar lan y môr mae ‘nghariad inne
Yn cysgu’r nos a chodi’r bore.

Ar lan y môr mae carreg wastad,
Lle bum yn siarad gair â’m cariad,
O amgylch hon fe dyf y lili
Ac ambell gangen o rosmari.

Ar lan y môr mae cerrig gleision,
Ar lan y môr mae blodau’r meibion,
Ar lan y môr mae pob rhinweddau,
Ar lan y môr mae `nghariad innau.

Tros y môr y mae fy nghalon,
Tros y môr y mae f’ochneidion,
Tros y môr y mae f’anwylyd
Sy’n fy meddwl i bob munud.

Llawn yw’r môr o swnd a chregyn,
Llawn yw’r wy o wyn a melyn,
Llawn yw’r coed o ddail a blodau,
Llawn o gariad merch wyf innau

0 Comments

Cyflwyno Sylwadau

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

CYSYLLTWCH Â NI+

trac
Bwlch Post 205
Y BARRI CF63 9FF
01446 748 556
trac@trac-cymru.org