
Ambell i Gân
Ambell i gân a geidw fy mron
Rhag suddo i lawr dan aml i don,
Mae’r awen mor siriol, mor swynol, mor lân,
Diolchaf o galon am ambell i gân.
Ambell i gân dry dwyllwch y nos
Mor olau a’r dydd, mor siriol â’r rhos,
Caddugawl anobaith gymylau fel gwlân
A droant os gallaf gael ambell i gân.
Ambell i gân rydd nerth yn y fraich
A’r ysgwydd i gario aml i faich,
A grym anawsterau falurir yn lân
Os gallaf gael canu ambell i gân.
Ambell i gân a gaf yn y byd,
Ond teithiaf i wlad sydd yn ganu i gyd,
Ac wedi i’m adael yr anial yn lân,
Gobeithiaf gael canu nid ambell gân.
Ambell i Gân
Nodwyd y gân yn Nhrawsfynydd, Gwynedd
Mae nodiant y gân hon a llawer mwy ar gael yn y llyfr
Caneuon Tradodiadol y Cymry
Dyma ddau drefniant y gân, gan y bandiau Plu ac Plethyn
1 Comment
Cyflwyno Sylwadau

CYSYLLTWCH Â NI+
trac
Bwlch Post 205
Y BARRI CF63 9FF
01446 748 556
trac@trac-cymru.org
Syniad arddechog – a syml!
Diolch Arfon a Trac