
Adar Mân y Mynydd
Yr eos a’r glân hedydd
Ac adar mân y mynydd,
A ewch chi’n gennad at Liw’r Haf
Sy’n glaf o glefyd newydd?
Does gennyf ddim anrhegion
Na jewels drud i’w danfon
I ddwyn i’ch cof yr hwn a’ch câr
Ond pâr o fenig gwynion.
Yr adar mân fe aethant,
I’w siwrnai bell hedasant,
Ac yno ar gyfer gwely Gwen
Hwy ar y pren ganasant.
Mwy…
Adar Mân y Mynydd
Cân llatai. Casgliwyd y gân yn ardal Ffestiniog.
Mae nodiant y gân hon a llawer mwy ar gael yn y llyfr Caneuon Traddodiadol y Cymry
Yr eos a’r glân hedydd
Ac adar mân y mynydd,
A ewch chi’n gennad at Liw’r Haf
Sy’n glaf o glefyd newydd?
Does gennyf ddim anrhegion
Na jewels drud i’w danfon
I ddwyn i’ch cof yr hwn a’ch câr
Ond pâr o fenig gwynion.
Yr adar mân fe aethant,
I’w siwrnai bell hedasant,
Ac yno ar gyfer gwely Gwen
Hwy ar y pren ganasant.
Dywedai Gwen, lliw’r ewyn,
“Och fi pa beth yw’r ’deryn
Sydd yma’n tiwnio’n awr mor braf
A minnau’n glaf ar derfyn?”
“Cenhadon ym, gwnewch goelio
Oddi wrth y mwyn a’ch caro,
Gael iddo wybod ffordd yr y’ch,
Ai mendio’n wych ai peidio.”
“O dwedwch wrtho’n dawel
Mai byr fydd hyd fy hoedel,
Cyn diwedd hyn o haf, yn brudd
Â’n gymysg bridd a grafel.
Yr adar ddaeth yn ebrwydd
Gan ddwyn i’r mab y newydd
Y byddai’i gariad, hyn sydd wir,
Mewn bedd cyn hir o’i herwydd.
“Wel os yw hi’r fun dawel
Am fynd i bridd a grafel,
Caiff gennyf gamrig punt o bris
I roi iddi grys o ffarwel.
“Mi fynnaf ganu’r feiol
A’r delyn yn y canol,
A phob rhyw alar trwm ar glych
Pan êl `mun wych yn farwol.
“Ac yno byddaf finnau
Yn wylo’r heilltion ddagrau
Ar ôl y feinir fwyna ’rioed
A roes ei throed ar lwybrau.”
Dyma Georgia Ruth yn canu Adar Mân y Mynydd:
Recordiwyd y gân gan Siân James ar ei halbwm Y Ferch O Bedlam. Cewch clywed ar y dudalen hon

0 Comments