
A ei di’r deryn du?
A ei di’r deryn du
To my dearest love
O cais fy nghangen gu,
For I’m so deep in love.
Ni welaf yn unman
Such a damsel in my sight
A’r ferch mor lân o liw,
She is a beauty bright.
Mae’i gwallt yn felyn aur,
Just like a ring of gold,
A’i phryd fel eira gwyn,
The truth it must be told.
Cân serch ‘macaronic’, hynny yw, cân sy’n cymysgu ieithoedd. Fel y gwelwn mewn llawer o ganeuon gwerin, mae’r aderyn yn ‘llatai’ – negesydd rhwng cariadon.
Casgliwyd y gân yn Llanllyfni o ganu W. Sylvanus Jones, a ddysgwyd y gân yn Sir Gaerfyrddin.
Mae nodiant y gân hon a llawer mwy ar gael yn y llyfr
Caneuon Traddodiadol Y Cymry
Dyma ddau drefniant y gân, gan y bandiau Adran D a Solaference

CONTACT US+
trac
PO Box 205
BARRY CF63 9FF
01446 748 556
trac@trac-cymru.org
0 Comments