
Cariad Cywir
Troi’r wythnos yn flwyddyn,
Troi’r flwyddyn yn dair,
Rwy’n ffaelu troi ‘nghariad
I siarad un gair.
Troi’r afon i’r ffynnon,
Troi’r ffynnon i’r tŷ,
Rwy’n ffaelu troi ‘nghariad
Run feddwl â mi.
Mwy…
Cariad Cywir
Cofnodwyd yn Aberystwyth; y gân yn tarddu o ardal y Mynydd Bach.
Mae nodiant y gân hon a llawer mwy ar gael yn y llyfr Caneuon Traddodiadol y Cymry
Troi’r wythnos yn flwyddyn,
Troi’r flwyddyn yn dair,
Rwy’n ffaelu troi ‘nghariad
I siarad un gair.
Troi’r afon i’r ffynnon,
Troi’r ffynnon i’r tŷ,
Rwy’n ffaelu troi ‘nghariad
Run feddwl â mi.
Troi’r ceffyl i’r gwedde,
Troi’r ychen i’r ddôl,
Rwy’n ffaelu troi ‘nghariad
I orwedd yn (y) ‘nghôl.
Troi’r ychen i’r ddôl,
Rwy’n ffaelu troi ‘nghariad
I orwedd yn (y) ‘nghôl.
Tra fyddo calch ar dalcen plas,
Tra fyddo clomen blufen las,
Tra fyddo’r fran yn troi ei nyth,
F’anwylyd fach a gara i byth.
Tra fyddo eryr draw’n yr allt,
Tra fyddo dŵr y môr yn hallt,
Tra fyddo’r ych yn pori’r ddôl,
F’anwylyd fach ni ‘dawai i’n ôl.
Tra fyddo dŵr y môr yn hallt,
Tra fyddo’r ych yn pori’r ddôl,
F’anwylyd fach ni ‘dawai i’n ôl.

CONTACT US+
trac
PO Box 205
BARRY CF63 9FF
01446 748 556
trac@trac-cymru.org
0 Comments